Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
29 Ionawr 2024
SL(6)446 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau
Gwresogi) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau”) yn rhoi effaith
i ryddhad newydd rhag atebolrwydd am ardrethi annomestig. Mae'r
rheoliadau yn rhagnodi amodau sydd i’w bodloni i fod yn
gymwys i gael rhyddhad rhwydweithiau gwresogi ac yn diffinio ystyr
rhwydwaith gwresogi fel cyfleuster sy’n cyflenwi ynni thermol
o ffynhonnell ganolog i leoliadau eraill, at ddibenion gwresogi
gofod, oeri gofod, neu wresogi dŵr domestig.
Yn Neddf Ardrethu
Annomestig 2023 ("Deddf 2023"), a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar
26 Hydref 2023, gwnaed darpariaeth ar gyfer rhyddhad llawn newydd
rhag atebolrwydd am ardrethi annomestig i rwydweithiau gwresogi
cymwys. Roedd Deddf 2023 yn mewnosod Atodlen 4ZA yn Neddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1988, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer y
rhyddhad newydd rhag ardrethi annomestig i rwydweithiau gwresogi.
Bydd y darpariaethau newydd yn cael effaith mewn perthynas â
blynyddoedd ariannol o 1 Ebrill 2024.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Fe’u gwnaed ar: 15 Ionawr 2024
Fe’u gosodwyd ar: 17 Ionawr 2024
Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2024